Tocynnau bws ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Mae gwahanol opsiynau trafnidiaeth ar gyfer myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dibynnu ar y campws lle rydych yn astudio.
Tycoch / Llwyn y Bryn / Llys Jiwbilî
Yn achos myfyrwyr sy’n astudio ar gampysau Tycoch / Llwyn y Bryn / Llys Jiwbilî, mae gweithredwyr bws lleol yn darparu gwasanaethau sy’n rhoi modd i fyfyrwyr gael eu cludo i’r Coleg ac yn ôl. Does dim gwasanaethau ‘pwrpasol’ ar gyfer y campysau hyn.
I gael gwybodaeth am y mathau amrywiol o docynnau sydd ar gael i fyfyrwyr gan First Cymru, ewch i firstbus.co.uk. Mae’r opsiynau’n cynnwys tocynnau tymhorol (mae’r gost yn amrywio fesul tymor) a thocynnau blynyddol (£388 yn 2025-2026), neu os byddai’n well gennych mae opsiynau ar gyfer tocynnau un daith neu docynnau dydd. Mae’r tocynnau tymhorol a blynyddol yn caniatáu trafnidiaeth 24-7 ar wasanaethau First Cymru.
Sylwch: Bydd dysgwyr 16-21 oed sydd wedi gwneud cais am docyn Fy Ngherdyn Teithio AM DDIM yn cael gostyngiad 30% ar bob tocyn Coleg Gŵyr Abertawe sydd ar gael.
Dysgwch ragor am y tocyn am ddim yn fyngherdynteithio.llyw.cymru

Myfyrwyr sydd wedi cael Grant CAWG:
Bydd myfyrwyr sy’n gymwys i gael y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (CAWG) yn derbyn tocyn bws am ddim pan fo’n briodol. Bydd ffurflenni cais am gymorth CAWG ar gael o’r swyddfa Gwasanaethau Myfyrwyr neu gallwch lawrlwytho o’n tudalen cyllid ar ôl 1 Mehefin 2025.
Yn achos myfyrwyr 16-21 sy’n derbyn cymorth CAWG ac sy’n astudio yn Nhycoch, Llwyn y Bryn neu Lys Jiwbilî, rhaid bod â thocyn ‘Fy Ngherdyn Teithio’ gyda chi er mwyn i’ch tocyn bws Coleg fod yn ddilys. Dyrennir tocynnau bws ar gyfer dysgwyr CAWG trwy’r tîm Cyllid Myfyrwyr yn y Coleg.
Yn achos myfyrwyr 22 oed a hŷn sy’n dilyn cwrs Addysg Bellach amser llawn, mae tocyn bws blynyddol rhatach ar gael trwy’r swyddfa Cyllid Myfyrwyr am £388 ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-2026 – arbediad o £192 ar brisiau First Cymru.
Yn achos myfyrwyr sy’n mynychu Campws Tycoch nad ydynt mwyach yn cael eu gwasanaethau gan lwybrau First Cymru, gallwch brynu tocyn bws Adventure Travel o’r Coleg. Rhaid i’r myfyriwr ddarparu llun pasbort ohono ei hun.
Campws Gorseinon
Ar Gampws Gorseinon, gall myfyrwyr brynu tocyn bws South Wales Transport a fydd yn caniatáu iddynt deithio i’r Coleg ac yn ôl gan ddefnyddio’r gwasanaeth bws Coleg wedi’i gomisiynu ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd.
Cost tocyn bws yw £388* ac mae’n ddilys o 1 Medi 2025 tan 30 Mehefin 2026. Os hoffech dalu trwy gynllun rhandaliadau mae ffi weinyddu £17 yn berthnasol):
- Adeg cofrestru - £195
- Rhandaliad 2 (yn ddyledus ar 5 Tachwedd 2025) - £105
- Rhandaliad 3 (yn ddyledus ar 5 Ionawr 2026) - £105
Sylwch: Bydd angen arnoch naill ai sieciau ôl-ddyddiedig (3 Tachwedd 2025 a 5 Ionawr 2026) neu fanylion debyd/credyd er mwyn trefnu’r cynllun rhandaliadau. Ni all ApplePay na GooglePay drefnu’r cynllun rhandaliadau.
Mae’r llwybrau bws i Gampws Gorseinon ac yn ôl i’w gweld ar wefan SWT. Gwiriwch y llwybr gyda’r cwmni bws adeg cofrestru ar gyfer unrhyw ddiweddariadau.
I wybod rhagor, cysylltwch â’r tîm Cyllid Myfyrwyr ar Gampws Tycoch ar 01792 284000 neu Gampws Gorseinon ar 01792 890700.