Skip to main content

Gofaint Arian – Gweithdy Arbenigol

Rhan-amser
Llwyn y Bryn
10 wythnos

Trosolwg

Bydd tair sesiwn o ddeg wythnos o weithdai yn eich annog i ddatblygu technegau gofaint arian uwch gan roi modd i chi arbenigo yn y maes o’ch dewis. Mae’r cyrsiau yn addas i’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad mewn gofaint arian.

Dewiswch o blith amrywiaeth o dechnegau gosod cerrig, technegau ffurfio, enamlo, castio, colfachau, uniadau a chlasbiau ac ati, rhybedu, ffurfio, neu waith gyda thema.

Gall myfyrwyr arbenigo mewn techneg wahanol yn ystod pob sesiwn o 10 wythnos neu barhau â’i harbenigedd am y flwyddyn gyfan os mynnant. Mae’r gweithdai hyn yn hyblyg eu cynnwys fel y gallwch fireinio technegau uwch o wneud gemwaith. Bydd disgwyl i chi wneud rhywfaint o waith ymchwil a dylunio sy’n briodol i’ch arbenigedd.

Gall pob sesiwn o 10 wythnos fod yn annibynnol o’r lleill – addysgir sgiliau ar gyfer pob arbenigedd yn ôl yr angen. Bydd disgwyl i fyfyrwyr weithio’n annibynnol a chynhyrchu gwaith o safon uchel a gorffeniad o ansawdd.

Gwybodaeth allweddol

Mae profiad blaenorol yn angenrheidiol e.e cyrsiau gofaint arian dechreuwyr a chanolradd.

Bydd dysgwyr yn gwneud darn neu ddarnau o emwaith i ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth a’u cymhwysedd wrth ymarfer. 

Mae dilyniant drwy gydol y flwyddyn, ond gall pob cwrs Gofaint Arian fod yn annibynnol o’r lleill – byddwch chi’n dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.

Addysgir y cwrs trwy sesiynau wyneb yn wyneb mewn stiwdio gofaint arian llawn cyfarpar – darperir yr holl offer.

Gellir defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu:

  • Arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
  • Cwestiynau llafar / trafodaeth broffesiynol
  • Gwerthuso eu darn terfynol
  • Arsylwir iechyd a diogelwch drwyddi draw.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi ddychwelyd i’r Gweithdy Arbenigol i ddysgu sgiliau gwahanol neu barhau i ymarfer y sgiliau o’ch dewis.

Gall dysgwyr symud ymlaen i hunangyflogaeth hefyd (neu gyflogaeth), neu i gyrsiau eraill ym maes gemwaith.

Ffi stiwdio £10.

Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain, sydd ar gael yn www.cooksongold.com. Bydd cost y defnyddiau yn dibynnu ar y dyluniadau unigol a’r cerrig o’ch dewis. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.

Silversmithing - Specialist
Cod y cwrs: ZD161 ELD
18/09/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Thu
6.30 - 8.30pm
£220
Silversmithing - Specialist
Cod y cwrs: ZE161 PLD
18/09/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Thu
12.30 - 3pm
£260
Silversmithing - Specialist
Cod y cwrs: ZD161 ELD2
08/01/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Thu
6.30 - 8.30pm
£220
Silversmithing - Specialist
Cod y cwrs: ZE161 PLD2
08/01/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Thu
12.30 - 3pm
£260
Silversmithing - Specialist
Cod y cwrs: ZD161 ELD3
26/03/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Thu
6.30 - 8.30pm
£220
Silversmithing - Specialist
Cod y cwrs: ZE161 PLD3
26/03/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Thu
12.30 - 3pm
£260