Skip to main content

Gwneud Gwasgod Wedi’i Leinio (Cwrs Gwnïo)

Rhan-amser
Lefel 3
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu sut i gynllunio a gwneud gwasgod wedi’i leinio. Byddwch chi’n dysgu am hanes a datblygiad y wasgod fel rhan o wisg fodern. Cewch gyfle i ddysgu sut i gynllunio a chreu dyluniad ar gyfer gwasgod, a sut i gyfuno technegau addurno newydd, fel brodwaith, sashiko, ffeltio â nodwydd ac appliqué i gynhyrchu prosiect terfynol fydd yn unigryw i chi.

Gallwch ddewis defnyddio patrwm masnachol, dod â’ch cynllun patrwm eich hun neu ddefnyddio bloc a wnaed ymlaen llaw fel y sylfaen ar gyfer eich cynllun.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i ddysgwyr sydd â rhywfaint o brofiad o wnïo a gwneud dillad ond sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a dysgu technegau newydd. 

Gwybodaeth allweddol

Mae disgwyl i chi fod â rhai sgiliau gwnïo a phrofiad o wneud dillad syml er mwyn ymuno â’r cwrs hwn, ond bydd technegau newydd yn cael eu dangos yn llawn o’r dechrau.

Mae dosbarthiadau’n digwydd yn ein stiwdio gwnïo a chynllunio gyfeillgar, fach ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad i amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd ymlaciol ond ysbrydoledig.

Bydd yr holl ddefnyddiau’n cael eu darparu ar y dechrau i’ch rhoi ar ben y ffordd, er bydd disgwyl i chi ddarparu’ch defnyddiau a’ch offer eich hun i gynhyrchu’ch prosiect eich hun.

Dysgu sut i gyfuno’ch sgiliau gwnïo newydd â chlytwaith, appliqué neu frodwaith a sashiko fel y gallwch gynllunio dillad hanfodol sy’n unigryw i’ch steil.

Gallwch symud ymlaen i gyrsiau gweithgynhyrchu dillad eraill hefyd.

Make a Lined Waistcoat (Sept Start)
Cod y cwrs: VC081 PLB
16/09/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Tue
10am - 1pm
£70
Lefel 3