Mae dewis y llwybr iawn ar ôl coleg yn gallu bod yn gyffrous ac yn frawychus, ond i’r cyn-fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, Hayley Szymonski, roedd yn ddechrau gyrfa greadigol a fyddai’n ei harwain i galon diwydiant dylunio Prydain.
A hithau erbyn hyn yn Bennaeth Dylunio yn Corgi Socks – brand moeth sydd ag enw da ledled y byd – sgwrsion ni â Hayley i ddysgu sut y gwnaeth ei hamser yng Ngholeg Gŵyr Abertawe lywio ei siwrnai, cael ei chyngor i bobl greadigol sy’n awyddus i ddilyn ei hôl troed, a chael cipolwg ar y brand sy’n cael ei garu gan y Teulu Brenhinol.
Dywedwch wrthon ni am Corgi
Busnes teulu chweched genhedlaeth yw Corgi, lle rydyn ni’n gwneud sanau a dillad gwau ar gyfer y siopau moeth, drutaf yn ogystal â’n brandiau ni ein hunain. Mae gyda ni Warant Frenhinol, a ddyfarnwyd i ni yn 1989. Gan ein bod ni’n gwmni gweithgynhyrchu, rydyn ni’n gweithio gyda llawer o gwmnïau label wen, felly gallen nhw fod yn siopau, neu ddylunwyr neu frandiau ffasiwn. Rhai o’r cwmnïau rydyn ni wedi gweithio gyda nhw yw Burberry, Thom Browne. Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda llawer o’r cynllunwyr ffasiwn iau newydd sy’n dangos eu gwaith yn Wythnos Ffasiwn Llundain ac Wythnos Ffasiwn Efrog Newydd, ac mae ganddyn nhw syniadau gwirioneddol wallgof a chreadigol y maen nhw eisiau dod â nhw yn fyw. Rydyn ni’n ceisio eu helpu i ddatblygu eu creadigaethau.
Beth mae’ch rôl yn ei olygu?
Fi yw’r Pennaeth Dylunio yma yn Corgi. Fi sy’n llywio’r holl waith dylunio a chreadigol yma. Dwi wedi bod yma 17 mlynedd erbyn hyn, a dwi wedi datblygu fy sgiliau a defnyddio’r hyn wnes i ddysgu yn y Coleg.
Sut wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe ddylanwadu ar eich gyrfa?
Astudiais i gyrsiau Safon Uwch Celf ac Astudiaethau Cyfryngau ar Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe, ac roedd yn fan cychwyn gwych i mi ddatblygu fy nghreadigrwydd. Fe wnaeth hen ddarlithydd gysylltu â mi gan ddweud bod cyfle ar gael yma yn Corgi, a hynny 17 mlynedd yn ôl. Felly, es i i’r cyfweliad a chael y swydd a dwi wedi bod yma ers hynny.
Beth yw’ch cyngor i fyfyrwyr sydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar hyn o bryd?
“Ewch ati i ddangos eich doniau creadigol, cwrdd â phobl newydd, dysgu cymaint ag y gallwch gan y tiwtoriaid a magu hyder.” Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe 40 o gyrsiau Safon Uwch wedi’u sicrhau, gan gynnwys cyrsiau amryfal mewn celf, dylunio a’r cyfryngau. Felly, p’un ai ydych yn anelu at y brifysgol, byd diwydiant, neu brofiad ymarferol, Coleg Gŵyr Abertawe yw’ch cam cyntaf.