Mae Ysgol Fusnes Plas Sgeti, rhan o Goleg Gŵyr Abertawe, yn falch o gyhoeddi ehangiad ei Bwrdd Cynghori gan ychwanegu chwe aelod deinamig newydd:
Luciana Ciubotariu, Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd, prosiect sy’n cwmpasu porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac yn cynnwys datblygiadau ynni glân ac asedau arloesedd, terfynfeydd tanwydd, gorsaf ynni, peirianneg drom a’r diwydiant dur ar draws de-orllewin Cymru.
Russell Greenslade, Cyfarwyddwr CBI Cymru, sy’n ymuno â ni ar ôl i Ian Price, cyn-Gyfarwyddwr CBI Cymru dderbyn rôl Cadeirydd Bwrdd Corfforaeth y Coleg.
Andrew Walker, Cyfarwyddwr Datblygu yn Resource Limited, sy’n rhoi cymorth masnachol a rheolaethol lefel-uchel i nifer gynyddol o gwmnïau partner.
Elliott James, cyn-fyfyriwr y Coleg a Phennaeth Datblygu Talent yn Pobl Group, y landlord cymdeithasol mwyaf yng Nghymru.
Rachael Flanagan, cyn-fyfyriwr y Coleg a sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol Mrs Buckét, cwmni glanhau sydd wedi ennill gwobrau amryfal a
Natasha Fulford, Rheolwr Gyfarwyddwr yn reTHINK, un o asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus a marchnata integredig hynaf yng Nghymru.
Mae’r chwe phenodiad newydd hyn yn dod â safbwyntiau gwahanol a chyfoeth o brofiad i’r Bwrdd, sy’n chwarae rôl hanfodol o ran tywys cyfeiriad strategol yr Ysgol Fusnes a sicrhau bod ei chwricwlwm yn parhau i gyd-fynd ag anghenion esblygol cyflogwyr ledled yr ardal.
Dywedodd Paul Kift, Dirprwy Bennaeth Sgiliau a Phartneriaethau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
“Rydyn ni wrth ein bodd o groesawu Luciana, Russell, Andrew, Elliott, Rachael a Natasha i’r Bwrdd Cynghori. Bydd eu mewnwelediadau a’u harbenigedd yn amhrisiadwy wrth i ni edrych ymlaen at y blynyddoedd nesaf, yn enwedig wrth fynd i’r afael â bylchau sgiliau, cefnogi twf economaidd a sicrhau bod ein dysgwyr yn barod ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol.”
Mae’r bwrdd Cynghori yn parhau i gefnogi uchelgais yr Ysgol Fusnes i gyflwyno cwricwlwm dan arweiniad cyflogwyr sy’n adlewyrchu blaenoriaethau rhanbarthol ac yn llywio twf economaidd. Mae eu gwybodaeth a’u harweiniad wedi cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygiad y cwricwlwm newydd a chynigion cyllid llwyddiannus, gan gynnwys y rhai hynny trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ychwanegodd Michael Kavanagh, Rheolwr Masnachol yn Concrete Structures and Floors, a Chadeirydd y Bwrdd Cynghori:
“Cryfder ein Bwrdd yw ei amrywiaeth a’i gyfoeth o brofiad. Gyda’r aelodau newydd hyn, rydyn ni mewn sefyllfa llawer gwell i ymateb i anghenion busnesau sy’n newid yn gyflym ac i helpu i siapio gweithlu sy’n barod ar gyfer y dyfodol yn ne Cymru.”
Mae Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn parhau i ymroi i wella cydweithredu rhwng addysg a diwydiant, gan greu llif o dalent, arloesedd, ac arweinyddiaeth a fydd yn symud yr ardal yn ei blaen. Yn fwyaf diweddar, fel rhan o’i chyfres o ddosbarthiadau meistr, fe wnaeth yr Ysgol groesawu’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a’r darlledwr Jonathan Davies OBE i ddysgu sut y gall disgyblaethau chwaraeon oleuo a gwella’r broses o wneud penderfyniadau, deinameg tîm, a diwylliant sefydliadol.
DIWEDD
Ysgol Fusnes Plas Sgeti
Yn 2022, gyda chymorth Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, cafodd Plas Sgeti ei drawsnewid yn hyb arloesi, arweinyddiaeth a datblygiad proffesiynol. Mae’r Bwrdd Cynghori yn ganolog i’r genhadaeth hon, gan ddod ag arweinwyr ynghyd o fyd diwydiant, addysg a’r sector cyhoeddus i helpu i lunio’r agenda sgiliau i dde Cymru a thu hwnt.
Mae Aelodau o’r Bwrdd Cynghori fel a ganlyn:
Alison Orrells: The Safety Letterbox Company, Prif Swyddog Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr a Chadeirydd CBI Cymru
Andrew Walker: Resource Limited, Cyfarwyddwr Datblygu
Chris Foxall: Hyppo Hydrogen Solutions, Prif Swyddog Gweithredol
Deb Bowen-Rees: Cyfarwyddwr Anweithredol - Dŵr Cymru, Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol - Airport Cood Ltd, Cyfarwyddwr Anweithredol – Porthladd Aberdaugleddau
Elliot James: Pobl, Pennaeth Datblygu Talent
Gareth Hopkins: Vodafone, Pennaeth Gwasanaethau Proffesiynol y DU
Ioan Jenkins: Tidal Range Alliance, Cadeirydd
Louise Harris: Tramshed Tech, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd
Luciana Ciubotariu: Porthladd Rhydd Celtaidd, Prif Swyddog Gweithredol
Lucy Cohen: Mazuma, Cyd-sylfaenydd
Lucy Hole: Secret Hospitality Group, Cyfarwyddwr
Michael Kavanagh (Cadeirydd): Concrete Structures and Floors, Rheolwr Masnachol
Natasha Fulford: reTHINK, Rheolwr Gyfarwyddwr
Rachael Flanagan: Mrs Bucket, Prif Swyddog Gweithredol
Rhodri Jones: Cyngor Abertawe, Pennaeth Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth
Russell Greenslade: CBI Cymru, Cyfarwyddwr Cymru
Ryan Hole: Secret Hospitality Group, Rheolwr Gyfarwyddwr